Mae Sain Dunwyd yn enwog fel cartref i Gastell hudol o’r 12fed ganrif. Yn eistedd uwchben Sianel Bryste, mae’r amddiffynfa mawreddog hwn nawr yn gartref i ysgol breswyl rhyngwladol, Coleg yr Iwerydd, ag agorwyd yn 1962 fel y Coleg Unedig y Byd cyntaf. Mae’r pentref, felly, yn cael ei adnabod ar draws y byd gan genhedlaethau o gyn-ddisgyblion.
Am gyfnod yn ystod y 1920au mai miliwnydd o’r cyfryngau oedd piau’r castell, sef Randolph Hearst ac yn yr Ail Rhyfel Byd cafodd swyddogion y fyddin eu hyfforddi yna.
Mae Eglwys Sain Dunwyd, sy’n eistedd yng nghysgod y castell, yn un rhestredig Gradd 1. Mae ei hanes yn mynd yn ôl i’r 12fed ganrif ac mae llawer o nodweddion Normanaidd yn yr adeilad.
Mae tir Castell Sain Dunwyd yn gartref i Ganolfan Gelfyddydau Sain Dunwyd. Mae’r Ysgubor Degwm canoloesol a’i estyniad modern yn cynnal amrywiaeth o berfformiadau byw ac yn cynnwys sinema hefyd. Yn ogystal â hyn, mae’r ganolfan yn cynnig cefndir unigryw ar gyfer priodasau a chynadleddau.